Tŷ fy Nhad

Fel arfer, byddaf yn byw a gweithio yn Llundain, gan ddychwelyd i fy mhrif cartref yma ac acw – ryw unwaith y mis. Ers ddechrau’r pandemig ym mis Mawrth 2020, yr ydwyf wedi dychwelyd i dŷ fy nhad.

Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau; pe na byddai felly, a fyddwn i wedi dweud wrthych fy mod yn mynd i baratoi lle i chwi?

Yn lle trigfannau, mae llawer o lyfrau, pamffledi a mapiau. Dymunaf rannu rhai o’r rhain â chi.

Tŷ fy Nhad yw enw un o raglenni C’mon Midffîld hefyd.

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Cyffredinol

Gwell hwyr na hwyrach

Mae hi bron yn flwyddyn ers i wledydd y DU gychwyn ar eu cyfnod clo a rhwystrau. Daeth i rym 23 Mawrth 2020, er yr oedd hi’n amlwg bod un ar y ffordd ers meityn. Ar wahan i glywed sgrechau pobl yn galw am un wedi gweld y don yn taro gwledydd eraill, yr oedd un busnes mawr ar ôl y llall yn hel pobl adref ac yn didyddmu a gohirio busnes.

Mae’n anodd cofio ac adrodd unrhyw beth o bwys o’r flwyddyn olaf, er yn ddiau yr ydwyf wedi bod yn brysur iawn trwy’r adeg. Er yr holl aros gartref, yr oeddwn wedi disgwyl y buaswn wedi ysgrifennu rhywbeth – unrhyw beth. Felly dyma ceisio ffindio ysgogiad i wneud. Gwell hwyr na hwyrach.

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Cyffredinol